Index  ›  crime  ›  BBC
crime · BBC ↗

Arestio un ar amheuaeth o lofruddio wedi i ddyn farw yn Y Trallwng

BBC Reviewed Jul 2, 2026 ✓ Reviewed by citations.press editors
Arestio un ar amheuaeth o lofruddio wedi i ddyn farw yn Y Trallwng
A 22-year-old man was arrested for assault with a weapon after a man died in Y Trallwng.
22 years · man

Mae dyn 22 oed wedi cael ei arestio ar amheuaeth o lofruddio ar ôl i ddyn farw yn Y Trallwng.

Dywedodd Heddlu Dyfed Powys eu bod wedi derbyn adroddiad am ddyn oedd wedi cael ei anafu ar Stryd yr Eglwys am 01:16 fore Sul.

Ond er gwaethaf ymdrechion swyddogion a'r gwasanaeth ambiwlans, bu farw'r dyn.

Bu ambiwlans awyr yn bresennol yno hefyd.

Mae'r dyn a gafodd ei arestio ar amheuaeth o lofruddio wedi cael ei gadw yn y ddalfa ac mae'r llu yn apelio ar unrhyw un â gwybodaeth am y digwyddiad i gysylltu gyda nhw.

Dywedodd yr heddlu bod dyn arall yn parhau yn y ddalfa hefyd.

Bu'r ffyrdd ar gau ar hyd Stryd yr Eglwys, ond maen nhw bellach ar agor eto ac ychwanegodd yr heddlu y bydd mwy o bresenoldeb heddlu yno tra bod yr ymchwiliad yn parhau.

This article was originally published by BBC ↗. citations.press indexes the source-backed facts above and links to the original. Something wrong? Corrections policy · Report an error