Index  ›  sport  ›  BBC
sport · BBC ↗

Gemau Euro yn 'rhywbeth i'r clwb a'r gymuned yng Nghaernarfon'

BBC Published Jun 29, 2026 Reviewed Jul 3, 2026 ✓ Reviewed by citations.press editors
Citation-ready fact
Caernarfon FC won the Welsh Cup for the first time in their history.
1 title · Welsh Cup
View source ↗
Citation-ready fact
Caernarfon FC will host their first ever U19 European Championship match on 29 June, with Italy facing Serbia.
1 match · U19 European Championship match
Paul Evans, chairman of Caernarfon FC
View source ↗
Citation-ready fact
The Football Association of Wales invested approximately £1.1 million in Caernarfon FC's facility upgrades.
about 1100000 GBP · Football Association of Wales investment
Paul Evans, chairman of Caernarfon FC
View source ↗
Citation-ready fact
Caernarfon FC invested over £350,000 in facility upgrades.
more than 350000 GBP · Caernarfon FC investment
Paul Evans, chairman of Caernarfon FC
View source ↗
Citation-ready fact
The pitch was upgraded by reducing its height by nine inches.
9 inches · pitch height reduction
Paul Evans, chairman of Caernarfon FC
View source ↗
Citation-ready fact
New changing rooms installed at Caernarfon FC are described as 'state of the art' and comparable to Premier League facilities in England.
Paul Evans, chairman of Caernarfon FC
View source ↗

"Pwy fasai'n meddwl fasen ni'n cael twrnamaint Ewropeaidd yma ar yr Oval 'de?"

I Paul Evans, cadeirydd clwb pêl-droed Caernarfon, mae cynnal gemau Euro dan 19 yn yr Oval yn rhywbeth arbennig i'r gymuned gyfan.

Wrth i'r clwb baratoi ar gyfer y gêm gyntaf Euro dan 19 ar 29 Mehefin lle fydd yr Eidal yn gwynebu Serbia, meddai: "Mae o'n beth mawr iawn i'r clwb. Mae o'n sbeshal, mae o'n adeg hanesyddol i ni fel clwb.

"Fydd o'n beth mawr i ni fel clwb ond hefyd i'r gymuned a phlant yr ardal i allu ddod yma a gweld y dosbarth yma o bêl-droed."

Gyda byddsoddiad o tua £1.1 miliwn gan Gymdeithas Bêl-droed Cymru a buddsoddiad o dros £350,000 gan glwb pêl-droed Caernarfon, mae nifer o welliannau wedi bod i'r clwb, yn ôl Paul: "Mae rhan fwya' o'r gwaith ar y cae wrth gwrs. Mi oedd yna rediad o naw troedfedd ac mae hwnna wedi mynd lawr i jest i ddim rŵan.

"Weithiau rydyn ni'n edrych ar y cae rŵan a mae o bron yn lefel. Mae'n gwneud gwahaniaeth mawr i'r pêl-droed 'da ni'n ei weld ar y cae yma.

"Ac hefyd rydyn ni wedi cael ystafelloedd newid newydd. Mae rheini'n state of the art ac maen nhw fel rhai Premier League yn Lloegr. 'Da ni wedi tarmacio ac wrth gwrs mae stand newydd yma rŵan, a fydd yn galluogi ni i chwarae gemau Ewro."

Gyda nifer o sêr y byd pêl-droed yn cychwyn mewn twrnameintau dan 19, mae Paul yn gyffrous i weld sêr y dyfodol yn chwarae ar yr Oval: "Mae'n deimlad da – mae'n sbeshal, 'da ni'n edrych arno fel rhywbeth i'r clwb a'r gymuned.

"Meddyliwch chi am blant bach yr ardal yn dod yma i wylio gêm Ewropeaidd dan 19 ac mewn blynyddoedd i ddod bydd rhai o'r chwaraewyr yma yn y gêm oedolion a bydd ein plant ni yn gallu dweud 'welais i'r chwaraewr 'na yn chwarae ar yr Oval yn 2026'.

"Mae hwnna'n sbeshal i ni ac i bawb arall."

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i [email protected], dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

This article was originally published by BBC ↗. citations.press indexes the source-backed facts above and links to the original. Something wrong? Corrections policy · Report an error