Index  ›  sport  ›  BBC
sport · BBC ↗

Y Gymraes gyntaf i sicrhau dwy drwydded A UEFA yn gobeithio ysbrydoli

BBC Published Jun 29, 2026 Reviewed Jul 1, 2026 ✓ Reviewed by citations.press editors
Citation-ready fact
Del Morgan has been training for 10 years.
10 years · training duration
Del Morgan, coach
View source ↗
Citation-ready fact
Del Morgan was part of the Wrecsam team that secured a promotion to the Premier Division in 2023.
2023 year · promotion year
Del Morgan, coach
View source ↗
Citation-ready fact
Del Morgan decided to leave at the end of the 2024-25 season to focus on her coaching career.
2024 season · end of season
Del Morgan, coach
View source ↗

Morgan ydy'r Gymraes gyntaf sydd wedi llwyddo i dderbyn trwydded A UEFA, a hefyd trwydded A UEFA ar gyfer golwyr.

I Morgan, cyn-golwr tîm pêl droed merched Wrecsam ac sydd bellach yn hyfforddwr golwyr merched Lerpwl, mae'r aberth a'r ymdrech wedi bod yn un hir dymor.

"Mae hi wedi bod yn uchelgais ers i mi ddechrau hyfforddi dros 10 mlynedd yn ôl - ceisio cael y ddwy drwydded," meddai.

"Yn y bôn, hyfforddwr golwyr ydw i, felly dyna lle dwi wedi canolbwyntio arno fwyaf.

"Ond o dan reolau Uefa mae'n rhaid cael trwydded allanol ac un y golwyr i fedru mynd i'r cam nesaf o ran hyfforddi golwyr.

"Dwi wastad eisiau rhoi'r her yna i fy hun - rhywbeth i fy sbarduno, a dwi mor falch fy mod i wedi penderfynu ei wneud."

Roedd Morgan, o Brestatyn, yn rhan o dîm Wrecsam wnaeth sicrhau dyrchafiad i'r Adran Premier yn 2023.

Gyda'r tîm wedi ei sefydlu yn y brif adran, penderfynodd Morgan adael ar ddiwedd tymor 2024-25 i ganolbwyntio ar ei gyrfa fel hyfforddwr.

"Y broblem wrth gymhwyso ydy ei fod yn broses ddrud," meddai.

"Ar hyd y daith roedd rhai clybiau yn fy nghefnogi, ond yr ucha' mae rhywun yn mynd, y drytaf mae hi'n mynd.

"Dyma pam bod nifer yn stopio oherwydd does dim modd ei ariannu er mwyn mynd i'r cam nesaf.

"Mae Cymdeithas Bêl-droed Cymru wedi bod yn hynod o gefnogol yn rhoi'r cyfle i mi hyfforddi eu timau ieuenctid nhw felly dwi'n falch fy mod yn medru rhoi rhywbeth yn ôl."

Mae Morgan bellach yn gobeithio y bydd hi'n medru ysbrydoli'r genhedlaeth nesaf o ferched wrth iddyn nhw ddechrau ar eu llwybr hyfforddi.

"Dwi'n gobeithio y byddan nhw'n gweld fy nhaith i ac y bydd hyn o gymorth iddyn nhw," meddai.

"'Dan ni angen mwy o hyfforddwyr benywaidd ac yn enwedig hyfforddwyr golwyr yma yng Nghymru.

"Mae pethau yn newid yn araf bach ond mae angen llawer iawn mwy o gyfleoedd i'r merched ifanc yma."

"Dwi ddim yn meddwl mod i eisiau bod yn brif hyfforddwr - dwi dal i ystyried fy hun fel hyfforddwr golwyr yn gyntaf.

"Rhyw ddydd mi fyddai'n wych cael bod yn hyfforddwr tîm yn y WSL (Uwchgynghrair Merched Lloegr).

"Dwi'n cael y cyfle i weithio gyda thîm cyntaf Lerpwl yn eithaf aml felly dyna ydy'r prif uchelgais.

"Ac mae'r ferch fach sydd ynof fi yn dweud wrtha i y byddwn ni wrth fy modd yn hyfforddi Cymru rhyw ddydd."

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i [email protected], dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

This article was originally published by BBC ↗. citations.press indexes the source-backed facts above and links to the original. Something wrong? Corrections policy · Report an error